
2007 Rhif 3371 (Cy.298) (C.141)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007
Gwnaed 27 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 108(1)(b) a (2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Ddeddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar 18 Ionawr 2008
2 
Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym ar 18 Ionawr 2008—
(a) adran 106 ac Atodlen 4, mewn cysylltiad â pharagraffau 5 i 9 ac 14 i 19 o Atodlen 4 (Mân Ddiwygiadau a Rhai Canlyniadol) yn unig;
(b) adran 107 a Rhan 3 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad â diddymu adran 324(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac adran 43(10) ac (11) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn unig;
(c) adran 107 a Rhan 7 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad ag adran 9 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1993 ac Atodlen 3 iddi a'r pennawd i adran 2 ac adrannau 8(8), 9(3) a 9(4A) o Ddeddf Swn 1996 yn unig;
(ch) adran 107 a Rhan 9 o Atodlen 5 (Diddymiadau), mewn cysylltiad ag adran 45 (3) i (9) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn unig.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2007