
2007 Rhif 3368 (Cy.297)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007
Gwnaed 24 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Tachwedd 2007
Yn dod i rym 19 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(2) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 19 Rhagfyr 2007.
Diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn” rhodder_“
 “ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1126/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd o ran tocsinau Fusarium mewn indrawn a chynhyrchion indrawn.”.
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Tachwedd 2007