
2007 Rhif 3354 (Cy.296)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Diwygio) (Cymru) 2007
Gwnaed 23 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Tachwedd 2007
Yn dod i rym 27 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 45(1)(d), (9), (10), 143(2) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 27 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â'r flwyddyn 2008-2009 a blynyddoedd ariannol dilynol.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Eiddo y mae rhwymedigaeth i dalu arno ardrethi eiddo heb ei feddiannu
2 
Diwygir rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 1989 fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (2)(f) mewnosoder “and the whole hereditament has, subject to paragraph (3), been unoccupied for a continuous period not exceeding six months” ar ôl “industrial hereditament”;
(b) ym mharagraff (2)(g) yn lle “£1500” rhodder “£2200”;
(c) ym mharagraff (3) mewnosoder “and (f)” ar ôl “paragraph (2)(a)”; ac
(ch) ym mharagraff (4) mewnosoder “and (f)” ar ôl “paragraph (2)(a)”.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Tachwedd 2007