
2007 Rhif 3285 (Cy.289) (C.134)
POBL ANABL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007
Gwnaed 15 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 20(4)(b) o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005;
 ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995;.
Cychwyn darpariaethau bathodyn glas o ran Cymru
2 
30 Mawrth 2008 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, ddod i rym—
(a) adran 9 (cydnabod bathodynau pobl anabl a ddyroddwyd y tu allan i Brydain Fawr);
(b) Rhan 2 o Atodlen 1 ac adran 19(1) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r Rhan honno o'r Atodlen honno;
(c) y cofnodion yn Atodlen 2 o ran Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a Deddf Rheoli Traffig 2004, ac adran 19(2) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cofnodion hynny.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
15 Tachwedd 2007