
2007 Rhif 3251 (Cy.286) (C.133)
CYFRAITH TROSEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007
Gwnaed 13 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 53(5) o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cychwyn
2 
Mae paragraff 7(2) o Atodlen 9 i Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, ac adran 22 o'r Ddeddf honno i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraff hwnnw, yn dod i rym ar 19 Tachwedd 2007.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2007