
2007 Rhif 3232 (Cy.284) (C.132)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2007
Gwnaed 12 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 270(4) a (5)(c) o Ddeddf Tai 2004 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2007
2 
Mae darpariaethau canlynol Deddf Tai 2004 yn dod i rym ar 13 Rhagfyr 2007:
(a) adran 225, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 226;
(c) adran 265(1), i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 47 o Atodlen 15.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2007