
2007 Rhif 3230 (Cy.282)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2007
Gwnaed 9 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Tachwedd 2007
Yn dod i rym 4 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 4 Rhagfyr 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007.
Diwygio Rheoliadau 2007
3 
Mae Rheoliadau 2007 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
4 
Yn rheoliad 61D (1) (a) (i), yn lle'r ffigur “£1,150”, rhodder y ffigur “£905”.
5 
Yn rheoliad 61D (1) (b), yn lle'r ffigur “£250”, rhodder y ffigur “£1,025”.
6 
Yn rheoliad 61DD (1) (b) a rheoliad 61DD (1) (c), yn lle'r ffigur “£15,700” rhodder y ffigur “£15,715”.
7 
Yn rheoliad 61DD (1)(ch), yn lle'r ffigurau “£15,700” a “£23,680” rhodder y ffigurau “£15,715” a “£23,700” yn eu trefn.
8 
Yn rheoliad 61DD(1) (d), yn lle'r ffigur “£23,680”, rhodder y ffigur “£23,700”.
9 
Yn rheoliad 61DD (1)(dd), yn lle'r ffigurau “£23,680” a “£24,280” rhodder y ffigurau “£23,700” a “£24,315” yn eu trefn.
10 
Yn rheoliad 61DD (1)(e), yn lle'r ffigurau “£24,280”, “£26,180” a “£9.50” rhodder y ffigurau “£24,315”, “£26,265” a “£2.00” yn eu trefn.
11 
Yn rheoliad 61DD (1)(f) a rheoliad 61DD (1) (ff), yn lle'r ffigur “£26,180” rhodder y ffigur “£26,265”.
12 
Yn rheoliad 61DD (2)(a), yn lle'r ffigurau “£7.60” a “£15,700”, rhodder y ffigurau “£15.81” a “£15,715” yn eu trefn.
13 
Yn rheoliad 61DD (2) (b), yn lle'r ffigur “£1,150” ble bynnag y mae'n ymddangos, rhodder y ffigur “£905”.
14 
Yn rheoliad 61F (6) (a), yn lle'r ffigur “£12,420”, rhodder y ffigur “£12,425”.
15 
Yn rheoliad 61F (6) (b), yn lle'r ffigur “£4,905”, rhodder y ffigur “£4,910”.
16 
Yn rheoliad 61F (1) (ch), yn lle'r ffigur “£1,640” rhodder y ffigur “£1,645”.
17 
Yn rheoliad 65(3), yn lle “rheoliad 70” rhodder “rheoliad 63”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau , un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2007