
2007 Rhif 3193 (Cy.280)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 7 Tachwedd 2007
Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Tachwedd 2007
Yn dod i rym 3 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 9, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 9(5) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 3 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
Argyfwng cemegol, biolegol, radiolegol neu niwclear
2 

(1) Rhaid i awdurdod tân ac achub ddarparu yn ei ardal at ddibenion—
(a) gwaredu halogion cemegol, biolegol neu ymbelydrol oddi ar bobl os bydd argyfwng sy'n golygu bod halogion o'r fath yn cael, neu y gallant gael, eu gollwng; a
(b) dal, am gyfnod rhesymol, unrhyw ddwr a ddefnyddir at ddiben a grybwyllwyd yn is-baragraff (a).
(2) Wrth gymryd camau at ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1), rhaid i awdurdod tân ac achub wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i atal niwed difrifol i'r amgylchedd neu i gyfyngu ar niwed o'r fath.
Achub a diogelu yn achos argyfyngau penodol
3 

(1) Rhaid i awdurdod tân ac achub ddarparu yn ei ardal ar gyfer achub pobl a all gael eu dal ac ar gyfer eu diogelu rhag niwed difrifol, i'r graddau y mae'n ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, os digwydd—
(a) argyfwng sy'n golygu bod adeilad neu adeiledd arall wedi cwympo; neu
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (2), argyfwng sy'n dod o dan adran 58(a) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 sydd—
(i) yn ymwneud â thrên, tram neu awyren; a
(ii) yn debyg o ofyn bod awdurdod tân ac achub yn defnyddio ei adnoddau y tu hwnt i gwmpas ei weithrediadau dydd i ddydd.
(2) Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys i ddarparu ar gyfer argyfwng i'r graddau y mae'n ymwneud â thwnnel neu gloddfa yn cwympo.
(3) Yn yr erthygl hon—
(a) nid yw “adeiledd” (“structure”) yn cynnwys twnnel neu gloddfa;
(b) ystyr “twnnel” (“tunnel”) yw tramwyfa o waith dynion;
(c) ystyr “cloddfa” (“mine”) yw cloddfa o fewn ystyr adran 180 o Ddeddf Cloddfeydd a Chwareli 1954.
Y camau y mae angen eu cymryd at ddibenion swyddogaethau a roddir drwy Orchymyn
4 
Wrth wneud y ddarpariaeth sy'n ofynnol o dan erthygl 2 neu 3, rhaid i awdurdod tân ac achub—
(a) sicrhau y darperir y gweithwyr, y gwasanaethau a'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol i ateb pob gofyn rhesymol yn effeithlon;
(b) gwneud trefniadau ar gyfer delio â galwadau am gymorth;
(c) gwneud trefniadau ar gyfer sicrhau gwybodaeth angenrheidiol; ac
(ch) gwneud trefniadau i sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i atal difrod i eiddo sy'n deillio o gamau a gymerwyd yn unol â'r ddarpariaeth honno neu i gyfyngu ar ddifrod o'r fath.
Ymateb i argyfyngau y tu allan i ardal awdurdod tân ac achub
5 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a) awdurdod tân ac achub yn cynnal adnoddau arbenigol (“yr awdurdod cyntaf”);
(b) argyfwng o fath a bennir yn erthygl 2 neu 3 wedi digwydd neu'n debyg o ddigwydd yn ardal awdurdod tân ac achub arall (“yr ail awdurdod”); ac
(c) yr ail awdurdod wedi gofyn i'r awdurdod cyntaf ddefnyddio'r adnoddau hynny yn ardal yr ail awdurdod.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod cyntaf ddefnyddio ei adnoddau arbenigol yn ardal yr ail awdurdod i'r graddau y mae'n rhesymol at ddibenion delio â'r argyfwng.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “adnoddau arbenigol” (“specialist resources”) yw adnoddau a gynhelir at ddibenion cymryd camau yn unol â darpariaeth a wnaed yn unol ag erthygl 2 neu 3, gan gynnwys unrhyw weithwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol at y dibenion hynny.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
7 Tachwedd 2007