
2007 Rhif 3173 (Cy.278)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2007
Gwnaed 7 Tachwedd 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Tachwedd 2007
Yn dod i rym 30 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno o ran rheoli a rheoleiddio'r broses o ryddhau'n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a rheoli a rheoleiddio'u symudiadau trawsffiniol, o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy'n cael ei gynhyrchu neu ei fwydo i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd, o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Bu ymgynghori agored a thryloyw yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2007, deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Glwten Ŷd a Grawn Bragu) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2005 wedi'u dirymu.
Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004
3 

(1) Mae'r testun Saesneg o Reoliad 8 (arolygu, atafaelu a dal gafael ar fwyd anifeiliaid a amheuir) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004 wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mharagraff (5), yn lle'r ymadrodd “Subject to paragraphs (5A), (5B) and (6)” rhodder yr ymadrodd “Subject to paragraph (6)”.
(3) Mae paragraffau (5A) a (5B) wedi'u hepgor.
Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006
4 
Yn Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol) i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006, mae paragraff (dd) wedi'i hepgor.
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Tachwedd 2007