
2007 Rhif 3163 (Cy.274)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safleoedd Carafanau 1968 (Diwygio) (Cymru) 2007
Gwnaed 5 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Tachwedd 2007
Yn dod i rym 30 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 13(3) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy ac wedi ymgynghori â phersonau neu â chyrff yr ymddengys i'r Gweinidogion eu bod yn rhai cysylltiedig yn unol ag adran 13(3) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safleoedd Carafanau 1968 (Diwygio) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2007.
(2) Mae'r diwygiadau a wneir gan erthygl 2 yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r diffiniad o “caravan” at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960
2 
Diwygir isadran (2) o adran 13 o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968 (“twin unit caravans”) fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (a) yn lle “60” a “18.288” rhodder “65.616” a “20” yn eu trefn;
(b) ym mharagraff (b) yn lle “20” a “6.096” rhodder “22.309” a “6.8” yn eu trefn; ac
(c) ym mharagraff (c) yn lle “10” a “3.048” rhodder “10.006” a “3.05” yn eu trefn.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
5 Tachwedd 2007