
2007 Rhif 3161 (Cy.272) (C.128)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2007
Gwnaed 5 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 181 o Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a cymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Darpariaeth sy'n dod i rym ar 30 Tachwedd 2007
2 
Daw adran 153 o Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn dod i rym ar 30 Tachwedd 2007 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
5 Tachwedd 2007