
2007 Rhif 3153 (Cy.269)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2007
Gwnaed 4 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Tachwedd 2007
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dyddiad prisio
2 
1 Ebrill 2008 yw'r diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 (Prisio ar gyfer ardrethu annomestig) i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y diwrnod y mae'n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion rhestrau ardrethol annomestig lleol a chanolog sydd i'w llunio ar gyfer Cymru ar 1 Ebrill 2010.
Dirymu
3 
Dirymir Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002 i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru.
4 Tachwedd 2007