
2007 Rhif 315 (Cy.29)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007
Wedi'u gwneud 6 Chwefror 2007
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16BB a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, rhychwantu a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw “Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2007”.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 .
Diwygio'r Prif Reoliadau
2 

(1) Yn rheoliad 2(1) o'r Prif Reoliadau mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—“
 ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;”.“
 ystyr “gofal parhaus” (“continuing care”) yw gofal a ddarperir dros gyfnod estynedig o amser i berson er mwyn bodloni anghenion iechyd corfforol neu feddyliol sydd wedi digwydd o ganlyniad i salwch;”;“
 mae i “gwasanaethau offthalmig cyffredinol” yr ystyr sydd i “general ophthalmic services” yn adran 38(7) o'r Ddeddf;”;“
 mae i “gwasanaethau fferyllol” yr ystyr sydd i “pharmaceutical services” yn adran 41(2) o'r Ddeddf;”;“
 mae i “gwasanaethau deintyddol sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary dental services” yn adran 16CA o'r Ddeddf;”;“
 mae i “gwasanaethau meddygol sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary medical services” yn adran 16CC o'r Ddeddf;”;
(2) Yn rheoliad 2(2) o'r Prif Reoliadau, ar ôl y geiriau “at ddibenion y Rheoliadau hyn,” mewnosoder y geiriau “ac yn ddarostyngedig i reoliad 2A,”.
(3) Ar ôl rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau, mewnosoder y rheoliad a ganlyn—“
2A 

(1) Mae Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol yn parhau i fod yn gyfrifol am y personau a bennir ym mharagraff (3) isod a fu'n preswylio fel arfer yn yr ardal y sefydlwyd ef ar ei chyfer, yn yr amgylchiadau a osodir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r amgylchiadau—
(a) ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2007
(i) mae'r Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol wedi gwneud trefniant wrth arfer ei swyddogaethau; neu
(ii) mae awdurdod lleol wedi gwneud trefniant
y mae person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo yn cael gwasanaethau sy'n golygu neu sy'n cynnwys y ddarpariaeth o lety a leolir yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol arall; a
(b) mae'r person drwy hynny'n byw yn y llety.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys
(a) i berson sydd o dan 18 oed, a
(i) mae'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22(1) o Ddeddf 1989;
(ii) mae'n blentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A o Ddeddf 1989;
(iii) mae'n gymwys i gael cyngor a chymorth o dan adran 24(1A) neu adran 24(1B) o Ddeddf 1989;
(iv) mae wedi cael ei leoli mewn ysgol yn unol â datganiad o achos anghenion addysgol arbennig a wnaed o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 sy'n enwi'r ysgol; neu
(v) mae angen llety arno i fodloni anghenion gofal parhaus;
a
(b) i berson o dan 21 oed a oedd yn union cyn ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, yn berson a oedd yn dod o fewn un o is-gategorïau is-baragraff (a).
(4) Nid yw cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol o dan y rheoliad hwn yn ymestyn ei swyddogaethau o ran gwasanaethau meddygol sylfaenol, deintyddol sylfaenol, fferyllol ac offthalmig cyffredinol.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol” yw Bwrdd Iechyd Lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff 2A(2)(a)(i) neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cyfateb i ardal ddaearyddol yr awdurdod lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff 2A(2)(a)(ii).”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Chwefror 2007