
2007 Rhif 3078 (Cy.265)
CYFRAITH TROSEDD, CYMRU
Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007
Gwnaed 23 Hydref 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Hydref 2007
Yn dod i rym 19 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 6(2), (3), (4), (5) a (9)(b) a 114 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007 a daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Tachwedd 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “ardal” (“area”) yw ardal llywodraeth leol yng Nghymru;
 ystyr “arian partneriaeth” (“partnership monies”) yw arian a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru a'r awdurdodau cyfrifol ar gyfer ei wario yn unol â chyfarwyddiadau'r grwp strategaeth er mwyn cynnal llunio a gweithredu'r asesiad strategol a'r cynllun partneriaeth;
 ystyr “asesiad strategol” (“strategic assessment”) yw asesiad a gaiff ei baratoi yn unol â rheoliadau 5, 6 a 7;
 ystyr “awdurdodau cyfrifol” (“responsible authorities”) yw'r awdurdodau cyfrifol dros ardal;
 ystyr “blwyddyn” (“year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Ebrill;
 ystyr “camddefnyddio sylweddau” (“substance misuse”) yw camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill;
 ystyr “cynllun partneriaeth” (“partnership plan”) yw cynllun partneriaeth a gaiff ei baratoi o dan reoliadau 8 a 9;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998;
 ystyr “grŵ p strategaeth” (“strategy group”) yw grŵp a sefydlir yn unol â rheoliad 3;
 ystyr “personau a chyrff sy'n cydweithredu” (“co-operating persons and bodies”) yw personau a chyrff sy'n cydweithredu wrth arfer swyddogaethau awdurdodau cyfrifol o dan adran 5(2) o Ddeddf 1998.
 ystyr “personau a chyrff sy'n cymryd rhan” (“participating persons and bodies”) yw personau a chyrff a wahoddwyd i gymryd rhan wrth arfer swyddogaethau'r awdurdodau cyfrifol o dan adran 5(3) o Ddeddf 1998; ac
 ystyr “pwyllgor trosedd ac anhrefn” (“crime and disorder committee”) yw pwyllgor a sefydlir yn unol ag adran 19 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006.
Swyddogaethau o ran llunio a gweithredu strategaeth
3 

(1) Mae grwp strategaeth i fod ar gyfer pob ardal a'i swyddogaethau fydd —
(a) paratoi asesiadau strategol; a
(b) paratoi a gweithredu cynllun partneriaeth;
ar gyfer yr ardal honno ar ran yr awdurdodau cyfrifol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) aelodau'r grwp strategaeth fydd un neu fwy o bersonau a benodwyd o bob awdurdod cyfrifol y mae'n rhaid i un ohonynt ddal swydd uwch yn yr awdurdod hwnnw.
(3) Os bydd gan yr awdurdod cyfrifol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(a) o Ddeddf 1998 aelod etholedig sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol mae'r aelod hwnnw i fod yn un o'r personau a benodir o dan baragraff (2).
(4) Rhaid bod gan y grwp strategaeth drefniadau ar waith i lywodraethu penodiad cadeirydd, y cyfnod y mae person i wasanaethu fel cadeirydd a'r seiliau y ceir symud cadeirydd o'i swydd yn ystod y cyfnod hwnnw.
(5) Rhaid i'r grwp strategaeth gyfarfod o dro i dro drwy gydol y flwyddyn fel y mae'n barnu sy'n briodol.
(6) O ran cyfarfodydd y grwp strategaeth caiff personau eu mynychu sy'n cynrychioli personau a chyrff sy'n cydweithredu ac yn cymryd rhan ac unrhyw bersonau eraill y mae'r grwp strategaeth yn eu gwahodd.
(7) Ar adeg benodol ym mhob blwyddyn rhaid i'r grwp strategaeth ystyried a oes ganddo, a chan y personau hynny yn yr awdurdodau cyfrifol sy'n gweithio gyda'r grwp strategaeth, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
(8) Rhaid bod gan y grwp strategaeth drefniadau ar waith i lywodraethu adolygiad o wariant yr arian partneriaeth ac er mwyn asesu cynildeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwariant o'r fath.
Rhannu Gwybodaeth
4 

(1) Rhaid bod gan y grwp strategaeth drefniadau ar waith ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau cyfrifol a rhaid iddo baratoi protocol sy'n nodi'r trefniadau hynny.
(2) Rhaid i'r protocol rhannu gwybodaeth ymwneud â rhannu gwybodaeth—
(a) o dan adran 17A o Ddeddf 1998;
(b) o dan adran 115 o Ddeddf 1998; ac
(c) fel arall at ddibenion llunio a gweithredu asesiad strategol a chynllun partneriaeth ar gyfer yr ardal.
(3) Rhaid i bob awdurdod cyfrifol gydymffurfio â'r protocol a baratoir o dan baragraff (1) ac enwebu person sydd o fewn yr awdurdod hwnnw i hwyluso rhannu gwybodaeth o dan y protocol.
Asesiad Strategol
5 

(1) Yn ystod pob blwyddyn rhaid i'r grwp strategaeth baratoi asesiad strategol ar ran yr awdurdodau cyfrifol.
(2) Diben yr asesiad strategol yw er mwyn cynorthwyo'r grwp strategaeth i adolygu'r cynllun partneriaeth.
6 
Wrth baratoi'r asesiad strategol rhaid i'r grwp strategaeth ystyried—
(a) gwybodaeth a roddir iddo gan awdurdodau cyfrifol;
(b) gwybodaeth a roddir iddo gan bersonau a chyrff sy'n cydweithredu;
(c) gwybodaeth a roddir iddo gan bersonau a chyrff sy'n cymryd rhan;
(ch) gwybodaeth a roddir iddo gan y pwyllgor trosedd ac anhrefn ar gyfer yr ardal;
(d) y cynllun partneriaeth ar gyfer y flwyddyn honno; ac
(dd) unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal a roddir i'r awdurdodau cyfrifol gan bersonau sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal.
7 
Rhaid i asesiad strategol gynnwys—
(a) dadansoddiad o lefelau a phatrymau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal;
(b) dadansoddiad o'r newidiadau yn y lefelau a'r patrymau hynny ers yr asesiad strategol blaenorol;
(c) dadansoddiad o'r rhesymau paham mae'r newidiadau hynny wedi digwydd;
(ch) y materion y dylai pob awdurdod cyfrifol eu blaenoriaethu wrth arfer ei swyddogaethau i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal;
(d) y materion mae personau sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal yn ystyried y dylai pob awdurdod cyfrifol eu blaenoriaethu wrth arfer ei swyddogaethau i leihau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal; ac
(dd) asesiad sy'n dangos i ba raddau y gweithredwyd y cynllun partneriaeth ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
Cynlluniau partneriaeth
8 

(1) Rhaid i'r grwp strategaeth baratoi cynllun partneriaeth ar gyfer yr ardal.
(2) Cyn dechrau pob blwyddyn rhaid i'r grwp strategaeth adolygu'r cynllun partneriaeth.
(3) Pan adolygir y cynllun partneriaeth rhaid i'r grwp strategaeth ystyried yr asesiad strategol a luniwyd yn ystod y flwyddyn cyn y flwyddyn y cyfeirir ati ym mharagraff (2).
9 
Rhaid i'r cynllun partneriaeth nodi —
(a) strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau gyda'r flwyddyn y cyfeirir ati yn rheoliad 8(2);
(b) y blaenoriaethau a ganfyddwyd yn yr asesiad strategol a baratowyd yn ystod y flwyddyn cyn y flwyddyn y cyfeirir ati yn rheoliad 8(2);
(c) y camau y mae'r grwp strategaeth yn ystyried bod angen i'r awdurdodau cyfrifol eu cymryd i weithredu'r strategaeth honno a bodloni'r blaenoriaethau hynny;
(ch) sut y mae'r grwp strategaeth yn ystyried y dylai'r awdurdodau cyfrifol ddyrannu a threfnu eu hadnoddau i weithredu'r strategaeth honno a bodloni'r blaenoriaethau hynny;
(d) y camau y mae'n rhaid i bob awdurdod cyfrifol eu cymryd i fesur ei lwyddiant yn gweithredu'r strategaeth a bodloni'r blaenoriaethau hynny; ac
(dd) y camau y mae'r grwp strategaeth yn bwriadu eu cymryd yn ystod y flwyddyn i gydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan reoliadau 10, 11 a 12.
Gweithio'n Agos gyda'r Gymuned
10 

(1) At ddibenion paratoi'r asesiad strategol a pharatoi a gweithredu'r cynllun partneriaeth rhaid i'r grwp strategaeth wneud trefniadau i gael barn personau a chyrff sy'n byw a gweithio yn yr ardal ynghylch–
(a) y lefelau a'r patrymau o gamddefnyddio sylweddau yn yr ardal; a
(b) y materion y dylai pob awdurdod cyfrifol eu blaenoriaethu wrth iddo arfer ei swyddogaethau i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal.
(2) Rhaid i'r trefniadau o dan baragraff (1), i'r graddau y mae'n rhesymol, ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r canlynol—
(a) personau y mae'n ymddangos i'r grwp strategaeth eu bod yn cynrychioli buddiannau cymaint o grwpiau neu bersonau gwahanol yn yr ardal ag sy'n rhesymol; a
(b) personau y mae'n ymddangos i'r grwp strategaeth eu bod yn cynrychioli buddiannau'r grwpiau neu'r personau hynny yn yr ardal sy'n debygol yr effeithir arnynt yn benodol wrth weithredu'r cynllun partneriaeth.
(3) Wrth wneud y trefniadau o dan baragraff (1) rhaid i'r grwp strategaeth roi sylw i unrhyw ymgynghoriad arall gyda phersonau sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal honno a hwnnw'n ymgynghoriad a gynhelir gan yr awdurdodau cyfrifol o ran y materion a bennir yn is-baragraffau 1(a) a (b) heblaw o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i'r trefniadau a wneir o dan baragraff (1) ddarparu—
(a) bod y grwp strategaeth yn cynnal un cyfarfod cyhoeddus neu fwy yn ystod pob blwyddyn;
(b) y mynychir y cyfarfodydd hynny gan bersonau sy'n dal swyddi uwch ym mhob un o'r awdurdodau cyfrifol;
(c) bod yn rhaid i'r grwp strategaeth gymryd y camau hynny y mae'n barnu sy'n briodol i ddwyn i sylw personau sy'n byw a gweithio yn yr ardal, neu y gallai fel arall fod ganddynt ddiddordeb, wybodaeth ynghylch—
(i) pryd y cynhelir y cyfarfodydd hynny; a
(ii) yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfodydd hynny.
11 
Wrth baratoi'r cynllun partneriaeth rhaid i'r grwp strategaeth ystyried i ba raddau y gall personau sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal gynorthwyo'r awdurdodau cyfrifol i leihau camddefnyddio sylweddau yn yr ardal.
12 
Rhaid i'r grwp strategaeth gyhoeddi yn yr ardal grynodeb o'r cynllun partneriaeth ar y ffurf y mae'n ystyried sy'n briodol, gan gofio bod angen ei ddwyn i sylw cymaint o grwpiau neu bersonau gwahanol yn yr ardal ag sy'n rhesymol.
Canllawiau
13 
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r awdurdodau cyfrifol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru .
Darpariaethau Trosiannol
14 

(1) Hyd nes y bydd adran 19 (craffu gan awdurdod lleol ar faterion trosedd ac anhrefn) o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 yn cychwyn bydd rheoliad 6 yn effeithiol fe pe bai paragraff (ch) wedi'i hepgor.
(2) Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau 1 Ebrill 2008 yn lle'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adolygu'r cynllun partneriaeth rhodder cyfeiriadau at baratoi'r cynllun partneriaeth.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2007