
2007 Rhif 305 (Cy.24) (C.12)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 6 Chwefror 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4) a (5) o Ddeddf Tai 2004, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Ebrill 2007
2 
I'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, mae adrannau 212 i 215, ac atodlen 10 (cynlluniau ernes tenantiaeth) o Ddeddf Tai 2004 yn dod i rym ar 6 Ebrill 2007.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Chwefror 2007