
2007 Rhif 3010 (Cy.261)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Digolledu) 2007
Gwnaed 22 Hydref 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Hydref 2007
Yn dod i rym 22 Hydref 2007
Å chymeradwyaeth y Trysorlys, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 32(3) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac a freiniwyd bellach ynddynt .
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
O ran y Gorchymyn hwn—
(a) Ei enw yw Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Digolledu) 2007;
(b) fe ddaw i rym ar 22 Hydref 2007; ac
(c) mae'n gymwys o ran Cymru.
Digolledu
2 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn achosi i unrhyw anifail gael ei gigydda o dan adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 fel y'i cymhwysir i'r tafod glas gan erthygl 13 o Orchymyn y Tafod Glas 2003.
(2) Y digollediad sy'n daladwy gan Weinidogion Cymru o ran anifail yw gwerth yr anifail ar y farchnad yn union cyn iddo gael ei gigydda pe na bai wedi ei effeithio gan y tafod glas, pe na bai amheuaeth ei fod wedi ei effeithio gan y tafod glas neu pe na bai wedi bod yn agored i gael ei heintio gan y tafod glas.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “anifail” yw anifail sy'n cnoi cil.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2007