
2007 Rhif 3004 (Cy.260 )
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007
Gwnaed 22 Hydref 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Hydref 2007
Yn dod i rym 14 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru sydd wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd ac o ran mesurau yn y maes milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd, yn gwneud y rheoliad canlynol.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2007.
Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007
2 
Diwygir Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 drwy ychwanegu ar ôl rheoliad 3(3) y paragraff canlynol —“
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu baragraff (3) yn euog o dramgwydd.”
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2007