
2007 Rhif 2973 (Cy.256)
ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2007
Gwnaed 15 Hydref 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Hydref 2007
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan baragraff 21(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2007 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2007.
Cymeradwyo Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth
2 

(1) Mae'r cyrff a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy at ddibenion paragraff 21(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(2) Dyma'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a) Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; a
(b) Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth.
Andrew Davies
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru.
15 Hydref 2007