
2007 Rhif 2900 (Cy.251)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig a Chynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2007
Gwnaed 3 Hydref 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Hydref 2007
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru, a hwythau wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt, yn gwneud yn Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig a Chynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006
2 

(1) Diwygier Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) yn y diffiniad o “buddiolwr” ym mharagraff (1), ar ôl “iddo” mewnosoder “neu berson sydd wedi cymryd drosodd ymrwymiadau'r cyfryw berson”,
(b) ar ôl paragraff (1), mewnosoder “(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”.
(3) Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (2), mewnosoder—“
(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniadau gyda grwp a ddetholwyd i weithredu strategaeth ddatblygu leol yn unol ag Erthygl 37 o Reoliad y Comisiwn 1974/2006, er mwyn i'r grwp hwnnw wneud taliadau o gymorth ariannol ar ran Gweinidogion Cymru ac er mwyn i'r grwp hwnnw arfer pwerau adennill yn unol â rheoliad 9”.
(4) Yn rheoliad 7(2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(dd) darparu adroddiad rheoli yn unol ag Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn 1975/2006; a
(e) penderfynu a fu diffyg cydymffurfiaeth ai peidio.”
(5) Yn rheoliad 7(3), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(dd) os yw'n angenrheidiol at ddibenion paragraff (2)—
(i) arolygu a chyfrif da byw ar y tir, a
(ii) ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd neu i'r buddiolwr, neu i unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i'r buddiolwr hwnnw, drefnu ar gyfer casglu'r da byw hynny, eu rhoi mewn lloc a'u diogelu.”
(6) Yn rheoliad 14(3)—
(a) yn is-baragraff (b) ar ôl y geiriau “y telir cymorth ar eu cyfer) mewnosoder “a rheoliad 16(5) (gwrthod ac adennill cymorth, terfynu a gwahardd)”,
(b) dileer is-baragraff (c),
(c) yn is-baragraff (ch), ar ôl “iddynt” dileer “.” a mewnosoder “; a”,
(ch) ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—“
(d) rheoliad 16(6) (Pwerau'r Cynulliad i adennill etc.) o Reoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001.”.
(7) Mae paragraff (6)(b) yn adnewyddu'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(3)(c) i'r graddau bod parhau i weithredu'r ddarpariaeth honno'n cael ei arbed gan reoliad 14(2).
(8) Ym mharagraff 2 o'r Atodlen, yn lle “1689” rhodder “1698”.
(9) Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff (7), ychwaneger—“
8 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1975/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 o ran gweithredu gweithdrefnau rheoli yn ogystal â thrawsgydymffurfio o ran mesurau cefnogi datblygu gwledig.
9 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).”.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006
3 

(1) Diwygier Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2, ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”.
(3) Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff (10), ychwaneger—“
11 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1975/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 o ran gweithredu gweithdrefnau rheoli yn ogystal â thrawsgydymffurfio o ran mesurau cefnogi datblygu gwledig.
12 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2007