
2007 Rhif 2811 (Cy.238)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 25 Medi 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Medi 2007
Yn dod i rym 20 Hydref 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 132, 134, 135, 145(1) a (2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 20 Hydref 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004
2 
Ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 yn lle'r geiriau “Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC ar system gyffredinol i gydnabod diplomâu addysg-uwch a ddyfernir i'r sawl sy'n cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n parhau am dair blynedd o leiaf” rhodder “Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005
3 
Ym mharagraff 11 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 yn lle'r geiriau “Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol” rhodder “Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007”.
Diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005
4 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 yn y diffiniad o “Rheoliadau 2005” yn lle'r geiriau “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005” rhodder “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
25 Medi 2007