
2007 Rhif 2810 (Cy.237)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2007
Wedi'i wneud 25 Medi 2007
Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Medi 2007
Yn dod i rym 20 Hydref 2007
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) and (3) and 42(6) and (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt, a hwythau o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ar y cyd â'i swyddogaethau eraill, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac ar ôl ymgynghori fel yr ymddengys iddynt sydd yn briodol yn unol ag adran 7(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2007 a daw i rym ar 20 Hydref 2007.
2 
Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 fel a ganlyn.
3 

(1) Yn erthygl 2 yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) rhodder yn lle'r geiriau “89/48/EEC” y geiriau “2005/36/EC”.
(2) Yn erthygl 2 yn y diffiniad o “y Rheoliadau” (“the Regulations”) rhodder yn lle'r geiriau “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005” y geiriau “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
25 Medi 2007