
2007 Rhif 2715 (Cy.228)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Diwygio) 2007
Gwnaed 14 Medi 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Medi 2007
Yn dod i rym 12 Hydref 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1), (2), (3) a (4) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy :
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Diwygio) 2007 a daw i rym ar 12 Hydref 2007.
Diwygiadau i Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 fel a ganlyn:
(2) Yn erthygl 6 (symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yng Nghymru neu mewn man arall yn y Gymuned Ewropeaidd neu yn y Swistir), ym mharagraff (2), yn lle “o'r man cynhyrchu” rhodder “o fewn y Gymuned Ewropeaidd”.
(3) Yn erthygl 15 (tramgwyddau)—
(a) yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1) rhodder-“
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (1A), yn mynd yn groes i erthyglau 3, 4, 5(1), 6, 7(1) neu (3), 8(1) neu 11(1) neu'n methu cydymffurfio â hwy;”; a
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Ni fydd paragraff (1)(a) yn gymwys pan fo unrhyw fath o beth yn cael ei lanio ym Mhrydain Fawr yn groes i waharddiad yn y Gorchymyn hwn.”
(4) Yn lle Atodlen 1, rhodder—
ATODLEN 1
Erthyglau 4(a) a 10(1)


Deunydd sy'n dueddol o gael y pla Gofynion i'w bodloni o ran dyroddi unrhyw dystysgrif ffytoiechydol sy'n mynd gyda deunydd sy'n dueddol o gael y pla (“y dystysgrif”)
Acer macrophyllum Pursh.Acer pseudoplatanus L.Adiantum aleuticum (Rupr.) ParisAdiantum jordanii C. Muell.Aesculus californica (Spach) Nutt.Aesculus hippocastanum L.Arbutus menziesii Pursch.Arbutus unedo L.Arctostaphylos spp. AdansCalluna vulgaris (L.) HullCamellia spp. L.Castanea sativa Mill.Fagus sylvatica L.Frangula californica (Eschsch.) GrayFrangula purshiana (DC.) CooperFraxinus excelsior L.Griselinia littoralis (Raoul)Hamamelis virginiana L.Heteromeles arbutifolia (Lindley) M. RoemerKalmia latifolia L.Laurus nobilis L.Leucothoe spp. D. DonLithocarpus densiflorus (Hook. & Arn.) Rehd.Lonicera hispidula (Lindl.) Dougl. ex Torr. & GrayMagnolia spp. L.Michelia doltsopa Buch.-Ham. ex DCNothofagus obliqua (Mirbel) BlumeOsmanthus heterophyllus (G. Don) P. S. GreenParrotia persica (DC) C.A. MeyerPhotinia x fraseri DressPieris spp. D. DonPseudotsuga menziesii (Mirbel) FrancoQuercus spp. L.Rhododendron spp. L., other thanRhododendron simsii Planch.Rosa gymnocarpa Nutt.Salix caprea L.Sequoia sempervirens (Lamb. ex D. Don) Endl.Syringa vulgaris L.Taxus spp. L.Trientalis latifolia (Hook)Umbellularia californica (Hook. & Arn.) Nutt.Vaccinium ovatum PurshViburnum spp. L.”. 
(a) Naill ai—
(i) rhaid i'r dystysgrif gynnwys datganiad ychwanegol bod y deunydd yn tarddu mewn ardal y mae gwasanaeth iechyd planhigion y wlad y mae'r deunydd yn tarddu ohoni (“y gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol”) yn ei chydnabod yn ardal sy'n rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorumyn, ac yn yr achos hwn rhaid i enw'r ardal y mae'r deunydd yn tarddu ohoni gael ei bennu o dan “tarddle”; neu
(ii) rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol wirio'n swyddogol, o wneud arolygiadau swyddogol yn ystod cylchred gyflawn olaf llystyfiant y deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n destun y dystysgrif, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd oPhytophthora ramorum, na chanfyddwyd arwyddion o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla nac ar unrhyw goeden sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu; a
(b) rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i samplau cynrychioliadol gael eu cymryd o'r planhigion cyn eu hanfon, a'u bod wedi eu profi a'u cael yn rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaid o Phytophthora ramorum yn y profion hyn, ac yn yr achos hwn rhaid i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol arnodi ar y dystysgrif o dan y pennawd “additional decleration” y datganiad “tested and found free from non-European isolates of Phytophthora ramorum”.
(5) Yn ail golofn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff (b), yn lle “unwaith” rhodder “ddwywaith”; a
(b) ym mharagraff (c)—
(i) yn is-baragraff (i), ar ôl “ac unrhyw ddeunydd arall sy'n dueddol o gael y pla” mewnosoder “, gan gynnwys cyfryngau tyfu cysylltiedig a gweddillion planhigion,”;
(ii) hepgor “a” yn union ar ôl is-baragraff (ii); a
(iii) ar ddiwedd paragraff (iii) ychwaneger—“; a
(iv)  bod mesurau ffytoiechydol priodol wedi eu cymryd o fewn radiws o ddau fetr o'r fan lle bu planhigion heintiedig yn gorwedd”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Medi 2007