
2007 Rhif 2626 (Cy.223)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007
Wedi'i wneud 7 Medi 2007
Yn dod i rym 12.00 ganol dydd ar 8 Medi 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar ganol dydd ar 8 Medi 2007.
Diwygio
2 
Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 drwy hepgor erthygl 3A.
Rhodri Morgan AC/AM
Prif Weinidog Cymru
7 Medi 2007