
2007 Rhif 2597 (Cy.220)
TIROEDD COMIN, CYMRU
Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007
Gwnaed 4 Medi 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Medi 2007
Yn dod i rym 1 Hydref 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt gan adran 19(1) o Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1966” (“the 1966 Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966.
Dirymu
2 
Mae'r darpariaethau a ganlyn o Reoliadau 1966 wedi eu dirymu—
(a) rheoliad 32 (chwiliadau swyddogol a thystysgrifau swyddogol);
(b) rheoliad 35 (cyflenwi ffurflenni penodol);
(c) yn Atodlen 1 (ffurflenni), Ffurflen 21 a'r dyblygiad ohoni; ac
(ch) yn Atodlen 3 (ffioedd ar gyfer chwiliadau etc.), yr eitem gyntaf a'r ail eitem yn y tabl.
3 
Mae'r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu —
(a) Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1982;
(b) Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1989; ac
(c)  Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003.
Diwygio Rheoliadau 1966
4 
Yn rheoliad 34(1) o Reoliadau 1966, yn lle “for searches and official certificates of search, and for certified copies and extracts”, rhodder “ for certified copies and extracts”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
4 Awst 2007