
2007 Rhif 2496 (Cy.215)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 28 Awst 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Awst 2007
Yn dod I rym 24 Medi 2007
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac a freiniwyd bellach ynddynt gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Medi 2007.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliad Ewropeaidd” (“the European Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli salmonela ac asiantau milheintiol penodedig eraill sy'n ymledu drwy fwyd ;
 ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006;
 ystyr “samplau rheoli swyddogol” (“official control samples”) yw samplau sydd wedi'u cymryd o dan bwynt 2.1.2.2 o'r Atodlen i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003.
Ffioedd
3 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru godi unrhyw ffioedd a fydd yn eu barn hwy yn eu galluogi i dalu unrhyw dreuliau rhesymol yr ânt iddynt wrth iddynt gyflawni'r gweithgareddau a ganlyn—
(a) cymryd neu oruchwylio cymryd samplau rheoli swyddogol;
(b) archwilio samplau rheoli swyddogol;
(c) prosesu cais am gymeradwyo labordy o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(ch) prosesu dogfennaeth y gymeradwyaeth yn dilyn cais y cyfeirir ato yn is-baragraff (c);
(d) prosesu cais adnewyddu blynyddol o labordy a gymeradwyir o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o Reoliad Senedd Ewrop;
(dd) archwilio labordy at ddiben rheoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(e) gweinyddu prawf rheoli ansawdd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd.
(2) Mae ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru gan —
(a) y person sydd â gofal daliad pan fo samplau rheoli swyddogol yn cael eu cymryd o ran y gweithgareddau ym mharagraff 2(a) a (b); a
(b) gweithredydd y labordy o ran y gweithgareddau ym mharagraff (2)(c) i (g).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Awst 2007