
2007 Rhif 2494 (Cy.214)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) Gorchymyn 2007
Gwnaed 2.50pm ar 28 Awst 2007
Yn dod i rym 3.05 pm ar 28 Awst 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 1, 7 a 23(f) a (g) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) Gorchymyn 2007:
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Gorchymyn hwn rym am 3.05pm ar 28 Awst 2007.
Diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) Gorchymyn 1978
2 

(1) Diwygier Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 yn unol â'r Erthygl hon.
(2) Yn y tabl yn Atodlen 1 (sy'n rhestru diheintyddion a gymeradwywyd) ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod ar gyfer VI-RID mewnosoder“
Virkon Advanced 200*  250*  200*”
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Awst 2007