
2007 Rhif 2438 (Cy.202)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2007
Wedi'i wneud 14 Awst 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Awst 2007
Yn dod i rym 7 Medi 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(4B)(b), 44(9) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Medi 2007 ond bydd y diwygiad a osodir yn erthygl 2 yn effeithiol o 1 Ebrill 2007 ymlaen.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006.
2 
Yn y Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006, yn Erthygl 2 (Dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”), hepgorer paragraff (dd).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
14 Awst 2007