
2007 Rhif 2398 (Cy.199)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 14 Awst 2007
Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Awst 2007
Yn dod i rym 7 Medi 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:—
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007 a daw i rym ar [dyddiad]
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn:
 mae i'r ymadrodd “hectar cymwys” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “eligible hectare” yn Erthygl 44(2) o Reoliad y Cyngor 1782/2003;
 ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau wedi'u Rhif o 1 a 2 gyda phob cyfrol wedi'i marcio “Cyfrol o Fapiau ardaloedd ffermio llai ffafriol yng Nghymru” a chyda Rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999 wedi'i llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac wedi'u hadneuo yn Swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
 “ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n sefydlu cynlluniau uniongyrchol penodol i ffermwyr ac sy'n diwygio rheoliadau penodol fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1156/2006;
 ystyr “Taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006;
 ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol sydd o fewn ardal lai ffafriol;
 ystyr “tir llai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir tan anfantais neu dir tan anfantais ddifrifol;
 ystyr “tir tan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir tan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir a ddangosir â lliw glas ar y mapiau dynodedig;
 ystyr “tir tan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir a ddangosir â lliw pinc ar y mapiau dynodedig.
Asesiadau o gapasiti cynhyrchiol tir
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cymhwysedd capasiti uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan gaiff ei ffermio dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwrol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir yw'r uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2006 fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.
(3) Os yw tir, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net yn derbyn taliad Tir Mynydd neu wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2005 neu wedi bod yn hectar cymwys yn 2005 fel a grybwyllir yng nghofnodion 4, 5 a 6 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir yw'r uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2006 fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw'r swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.
Dirymu
3 
Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Awst 2007
YR ATODLEN
UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL
Erthygl 2


Colofn 1  Colofn 2 Colofn 3
Defnydd Ffermio  Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel)  buwch 302
Buchod bridio cig eidion:   
 Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd buwch −138
 Ar dir arall buwch −59
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)  pen −57 
Buchod llaeth i lenwi bylchau  pen 80 
Mamogiaid:   
 Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd mamog 8
 Ar dir arall mamog 19
Wyn stôr (gan gynnwys wyn benyw a werthir fel hesbinod)  pen 2
Moch:   
 Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes dorrog 160
 Moch porc pen 3
 Moch torri pen 5.50
 Moch bacwn pen 8.20
Dofednod:   
 Ieir dodwy aderyn 2
 Brwyliaid/ieir bwyta aderyn 0.24
 Cywennod ar ddodwy aderyn 0.45
Tyrcwn Nadolig  aderyn 4.50
2. Cnydau âr fferm
Haidd  hectar 24
Ffa  hectar 54.18 
Had porfa  hectar 230
Rêp had olew  hectar 22
Pys:   
 Sych hectar 14.18 
 Dringo hectar 350
Tatws:   
 Cynnar cyntaf hectar 1800
 Prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 1500
Betys siwgr  hectar 250
Gwenith  hectar 35
3. Cnydau garddwriaethol awyr aagored a ffrwythau
Gwreiddlysiau a nionod/winwns  hectar 2500
Cnwd bresych  hectar 1750
Pys a ffa ffres  hectar 1100
Ffrwythau'r Berllan  hectar 1300
Ffrwythau meddal  hectar 3600
4. Tir Porthiant
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd  hectar Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig Rhaglenni (Cymru) 2006
5. Neilltir
Tir a oedd yn 2005 wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o reoliad y Cyngor 1782/2003   
 Tir tan anfantais ddifrifol hectar −19.91
 Tir tan anfantais hectar −16.77
 Pob tir arall hectar −120.77
6. Hectarau cymwys
Tir a oedd yn 2005 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 1782/2003 ac eithrio tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o'r Rheoliad hwnnw:   
 Tir tan anfantais ddifrifol hectar 104.20
 Tir tan anfantais hectar 121.22
 Pob tir arall hectar 69.96
NODIADAU I'R ATODLEN


