
2007 Rhif 2386 (W.197) (Cy.88)
TIROEDD COMIN, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 11 Awst 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 56(1) a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965;;
 ystyr “Ddeddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym at ddibenion penodol
2 

(1) Mae darpariaethau Deddf 2006 a osodir ym mharagraff (2) yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud i'r graddau y maent yn rhoi pwer, neu'n gosod dyletswydd, ar Weinidogion Cymru—
(a) i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwyddynt;
(b) i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau; neu
(c) i wneud darpariaeth parthed arfer unrhyw bwer o'r fath neu parthed cyflawni dyletswydd o'r fath.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
 adran 3(5);
 adran 6(4);
 adran 7(4);
 adran 8(1) a (2);
 adran 11(5) a (6);
 adran 12(a);
 adran 13(1)(a);
 adran 14;
 adran 17(3) a (10);
 adran 19(6);
 adran 20(2) a (3);
 adran 21(2) a (3);
 adrannau 22 i 25;
 adran 29(1) a (6);
 adran 31(6)(a);
 adran 39(6);
 adran 40;
 adran 42(4);
 adrannau 43 a 44;
 adran 50(1) a (4) i (6);
 paragraffau 2(2)(d) a (3), 3(2)(e) a (3), 4(6), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(4) a 10 o Atodlen 2; a
 paragraffau 2(1), (5) a (6), 4, 5 ac 8(2) a (3) o Atodlen 3.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Medi 2007
3 
Mae'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 yn dod i rym ar 6 Medi 2007—
(a) adran 4 (awdurdodau cofrestru tiroedd comin);
(b) adran 5 (tir y mae Rhan 1 yn gymwys iddo);
(c) adran 15 (cofrestru meysydd tref neu bentref);
(ch) adran 23 (trosiannol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (i) o'r erthygl hon;
(d) adran 24 (ceisiadau etc.) i'r graddau nad yw'n cael ei dwyn i rym gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn;
(dd) adran 44 (materion atodol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (j) o'r erthygl hon;
(e) adran 45 (pwerau awdurdodau lleol dros dir nas hawlwyd);
(f) adran 47 (cau tir gan y perchennig);
(ff) adran 49 (hysbysiad cau tir);
(g) adran 51 (mynediad i gerbydau);
(ng) adran 52 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (l) o'r erthygl hon;
(h) adran 53 (diddymiadau), i'r graddau y mae yn rhoi eu heffaith i baragraffau (ll) i (o) o'r erthygl hon;
(i) yn Atodlen 3 (cofrestru: darpariaeth drosiannol), paragraff 9;
(j) yn Atodlen 4 (gwaith: materion atodol), paragraff 6;
(l) yn Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
(i) paragraff 4,
(ii) is-baragraff (a) o baragraff 6, a
(iii) is-baragraff (5) o baragraff 7 ac is-baragraff (1) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y mae yn ymwneud ag ef;
(ll) yn Rhan 1 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â chofrestru), y cofnodion sy'n ymwneud ag—
(i) Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 i'r graddau y mae'n diddymu adrannau 8, 9 a 13(a) a (b) o Ddeddf 1965,
(ii) adran 189(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972,
(iii) paragraff 10(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985,
(iv) adran 8 o Ddeddf Tiroedd Comin Dartmoor 1985,
(v) Deddf Tiroedd Comin (Cywiro Cofrestrau) 1989,
(vi) adrannau 46(1) a 98 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, a
(vii) adran 33(1) o Ddeddf Tiroedd Comin Greenham a Crookham 2002;
(m) yn Rhan 2 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â gwaith), y cofnodion yn ymwneud ag
(i) adran 21 o Ddeddf y Tiroedd Comin Metropolitanaidd 1866,
(ii) adran 30 o Ddeddf Tiroedd Comin 1876,
(iii) adran 21o Ddeddf Tiroedd Comin 1899 , a
(iv) Atodlen 7 i Ddeddf Prynu Gorfodol 1965;
(n) yn Rhan 3 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â chau tir gan y perchennog a chau tir), y cofnodion yn ymwneud â
(i) Deddf Tiroedd Comin 1285,
(ii) adran 31 o Ddeddf Tiroedd Comin 1876, a
(iii) Deddf Diwygio Cyfraith Tiroedd Comin 1893; ac
(o) Rhan 5 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â mynediad i gerbydau).
Darpariaethau trosiannol ac arbedion
4 

(1) Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn caniatáu cais o dan adran 15 o Ddeddf 2006 i gofrestru tir fel maes tref neu bentref cyn bod adran 1 o Ddeddf 2006 wedi dod i rym mewn perthynas â'r man lle lleolir y tir—
(a) rhaid i'r awdurdod cofrestru gofrestru'r tir yn y gofrestr o feysydd trefi neu bentrefi sy'n cael ei chadw ar gyfer y man hwnnw dan Ddeddf 1965; a
(b) hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â'r man hwnnw, mae Deddf 1965 yn gymwys mewn perthynas â'r cofrestru megis petai wedi'i wneud yn unol ag adran 13(b) o Ddeddf 1965.
(2) O ran unrhyw ardal o Gymru—
(a) mae cyfeiriadau yn adran 24 o Ddeddf 2006, ac mewn rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, at gofrestru tiroedd comin neu neu feysydd trefi neu bentrefi, i'w cymryd, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel cyfeiriadau at gofrestr o'r fath a gedwir o dan Ddeddf 1965; a
(b) mae adran 13(b) o Ddeddf 1965, a rheoliadau a wnaed oddi tani, yn parhau i gael eu heffaith hyd nes y daw'r canlynol i rym—
(i) adran 6 o Ddeddf 2006 o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n dod yn dir comin ac eithrio yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad, a
(ii) adran 14 o Ddeddf 2006 o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n dod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad.
(3) Pan fo—
(a) cais yn cael ei wneud cyn 6 Medi 2007 i awdurdod cofrestru, yn unol ag adran 13(b) o Ddeddf 1965, i ddiwygio'r gofrestr o feysydd trefi neu bentrefi o ganlyniad i fod tir wedi dod yn faes tref neu bentref, a
(b) nad yw'r awdurdod cofrestru yn dyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw,
rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(b) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.
(4) O ran unrhyw ardal o Gymru, mae'r cyfeiriad yn adran 45(1) o Ddeddf 2006 at dir sydd wedi'i gofrestru fel tir comin neu faes tref neu bentref i'w ddarllen, hyd nes daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel petai yn gyfeiriad at fod tir wedi'i gofrestru felly o dan Ddeddf 1965.
(5) Pan fo Comisiynydd Tiroedd Comin, cyn 6 Medi 2007, yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 8(2) neu (3) o Ddeddf 1965 i awdurdod cofrestru gofrestru person fel perchennog tir, ond nad yw'r awdurdod cofrestru yn cydymffurfio â'r cyfarwyddyd cyn y dyddiad hwnnw-
(a) mae'r cyfarwyddyd yn parhau i fod yn effeithiol ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny er gwaethaf diddymiad adran 8(2) a (3) o Ddeddf 1965; a
(b) os mai'r cyfarwyddyd yw i awdurdod lleol gael ei gofrestru fel perchennog y tir, pan wneir y cofrestriad, bydd adran 8(4) o Ddeddf 1965 yn gymwys megis pe na bai wedi cael ei diddymu.
(6) O ran unrhyw ardal o Gymru, mae adran 13(a) o Ddeddf 1965, a rheoliadau a wnaed oddi tani, yn parhau i gael eu heffaith, hyd nes daw adran 14 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n peidio â bod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad.
(7) Os, o ran unrhyw dir ac eithrio tir y cyfeirir ato ym mharagraff (6),—
(a) oes cais yn cael ei wneud cyn 6 Medi 2007 i awdurdod cofrestru, yn unol â rheoliadau o dan adran 13(a) o Ddeddf 1965, i dir gael ei dynnu oddi ar y gofrestr o ganlyniad i fod y tir hwnnw wedi peidio â bod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref; a
(b) nad yw'r awdurdod cofrestru yn dyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw,
rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(a) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
11 Awst 2007