
2007 Rhif 2371 (Cy.194)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Diwygio Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 3) 2007
Wedi'i wneud 8 Awst 2007
Yn dod i rym 29 Awst 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau sydd wedi'u breinio ynddynt hwy gan adrannau 121(5) a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 3) 2007 a daw i rym ar 29 Awst 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005
2 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 , hepgorer y geiriau “Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog”.
Rosemary Thomas
Pennaeth yr Is-adran Gynllunio, o dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Gynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
8 Awst 2007