
2007 Rhif 2332 (Cy.190)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007
Gwnaed 7 Awst 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Awst 2007
Yn dod i rym 7 Medi 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(4) a 2(8) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 7 Medi 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002.
Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
3 

(1) Yn rheoliad 3(3)(f) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.
(2) Yn rheoliad 4(1)(b) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.
(3) Yn rheoliad 4A o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Awst 2007