
2007 Rhif 2112 (Cy.170)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 23 Gorffennaf 2007
Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaeshol 24 Gorffennaf 2007
Yn dod i rym 1 Medi 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 129(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Medi 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dynodiad
2 
Dynodir Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ac yntau'n sefydliad addysg o'r math a ddisgrifir yn is-adran (2) o adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, yn sefydliad at ddiben yr adran honno.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2007