
2007 Rhif 204 (Cy.18) (C.9)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 30 Ionawr 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 79(3), 83(4), 83(5)(c), (d), (e), (f), (g) ac (8) o Ddeddf Iechyd 2006.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
 mae i “cyrff y GIG yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “Welsh NHS bodies” gan baragraff 2 o Atodlen 12B i Ddeddf 1977 sydd i'w mewnosod gan Atodlen 3 i'r Ddeddf;
 ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2006.
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â mangreoedd, mannau a cherbydau di-fwg
2 
2 Ebrill 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym —
(a) adrannau 1 i 3, 5 i 8, 10 a 12 ac Atodlen 1 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym ;
(b) adrannau 9 ac 11 ac Atodlen 2; ac
(c) adrannau 76, 77 a 78 i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 1.
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â swyddogaethau gwrth-dwyll Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac â thramgwyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny
3 
1 Chwefror 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym i'r graddau y maent yn ymwneud â swyddogaethau gwrth-dwyll Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu â thramgwyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny—
(a) adrannau 48 a 55 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(b) adrannau 44, 45, 46, 47, 49, 50, 51, 52, 53 a 54; ac
(c) adrannau 76, 77 a 78 i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4.
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n berthnasol i archwilio
4 
1 Chwefror 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â chyrff y GIG yng Nghymru —
(a) adran 56 ac Atodlen 3;
(b) paragraffau 24(a), 43, 44 a 62 o Atodlen 8, ac adran 80(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau hynny;
(c) yn Atodlen 9 —
(i) paragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002;
(ii) paragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004;
(iii) erthygl 2 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cyfrifon ac Archwilio Ymddiriedolaethau Elusennol ac Anelusennol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 2005; ac
(ch) adran 80(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau neu'r dirymiadau a bennir ym mharagraff (c).
Darpariaethau trosiannol sy'n berthnasol i archwilio
5 

(1) Mewn perthynas â chyrff y GIG yng Nghymru, er gwaethaf rhoi yn lle adran 98 o Ddeddf 1977 adran 56 o'r Ddeddf bydd —
(a) adran 98 o Ddeddf 1977;
(b) adran 144(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
(c) adran 14 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000; ac
(ch) adran 61(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004;
fel y byddant mewn grym ar 31 Ionawr 2007 yn gymwys o ran cyfrifon a gedwir gan y cyrff a restrir yn adran 98(1) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 (yn unol â hynny, bydd y trefniadau a geir yn Atodlen 12B newydd i Ddeddf 1977 yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ddilynol) ac o ran materion sy'n berthnasol i flynyddoedd ariannol cynharach ac nad ydynt wedi'u dirwyn i ben.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Ionawr 2007