
2007 Rhif 1905 (Cy.163)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007
Wedi'u gwneud 3 Gorffennaf 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Gorffennaf 2007
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2007.
Diwygio Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2(1) (Dehongli), yn lle'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn” rhodder“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy ac ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth;”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
3 Gorffennaf 2007