
2007 Rhif 1765 (Cy.154)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 19 Mehefin 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Mehefin 2007
Yn dod i rym 13 Gorffennaf 2007
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 13 Gorffennaf 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdodiad” (“authority”) yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 neu, yn ôl y digwydd, o dan erthygl 29 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006; a
 mae i'r ymadrodd “pasbort planhigion” (“plant passport”) yr ystyr a roddir iddo gan—
(a) erthygl 2 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 o ran awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwnnw; neu
(b) erthygl 2(1) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 o ran awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwnnw.
Ffioedd am arolygiadau at ddibenion pasbortau planhigion
3 

(1) Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru o ran unrhyw arolygiad (gan gynnwys gwiriad o gofnodion busnes) sy'n cael ei gynnal mewn cysylltiad ag—
(a) cais am awdurdodiad; neu
(b) sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdodiad yn rhinwedd erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 neu erthygl 29 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006.
(2) Y ffi yw £20.25 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr y mae arolygydd yn ei dreulio ar y safle gyda lleiafswm o £40.50 o ran unrhyw ymweliad.
Dirymu
4 
Dirymir y Rheoliadau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—
(a) Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) 1993; a
(b) Rheoliadau Pasbortau Planhigion (Ffioedd Iechyd Planhigion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1997.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwleidig un o Weinidogion Cymru
19 Mehefin 2007