
2007 Rhif 1713 (Cy.150)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007
Wedi'u gwneud 13 Mehefin 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Mehefin 2007
Yn dod i rym 10 Gorffennaf 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach , drwy hyn yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007. Deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Rhagarweiniol
2 
Diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 fel a ganlyn.
Diwygio rheoliad 3 (ffioedd arolygu)
3 
Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£21.00” rhodder “£24.00”.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
13 Mehefin 2007