
2007 Rhif 1710 (Cy.148)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2007
Wedi'u gwneud 12 Mehefin 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Mehefin 2007
Yn dod i rym 14 Mehefin 2007

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi  at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Gan arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan yr adran honno, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2007.
Diwygio
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru)2007 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli), yn y man priodol, mewnosoder—“
 ystyr “cynnyrch cyfansawdd” (“composite product”) yw bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl sy'n cynnwys cynhyrchion wedi'u prosesu sy'n dod o anifeiliaid yn ogystal â chynhyrchion sy'n dod o blanhigion ac mae'n cynnwys y cynhyrchion hynny pan fo prosesu cynnyrch sylfaenol yn rhan gyfannol o gynhyrchu'r cynnyrch terfynol, ond nad yw'n cynnwys bwydydd sy'n cynnwys unrhyw gynnyrch llaeth sy'n deillio o wledydd heb eu rhestru yn Atodiad 1 i Benderfyniad y Comisiwn 2004/438/EC (sy'n gosod amodau iechyd anifeiliaid ac amodau iechyd y cyhoedd ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer dod â llaeth wedi'i drin â gwres, cynhyrchion wedi'u seilio ar laeth a llaeth amrwd a fwriedir i'w fwyta gan bobl i mewn i'r Gymuned) (OJ Rhif L92, 12.4.2005, t. 47) ac yr ymdrinir ag ef megis petai wedi ei ddarparu ar gyfer y cyfryw wledydd.”.
(3) Yn rheoliad 2 (Dehongli), yn lle'r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—“
 ystyr “cynnyrch” (“product”) yw unrhyw gynnyrch sy'n dod o anifeiliaid ac a restrir ym Mhennod 2, 3, 4, 5, 12, 15, 16, 17, 19, 20, 21, 23, 28, 30, 31, 35, 41, 42, 43, 51 neu 97 o'r Tabl yn Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC (ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC), ond nad yw'n cynnwys—
(a) cynhyrchion cyfansawdd a bwydydd a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC; neu
(b) cynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn cynnwys cig neu gynhyrchion cig, pan fo llai na hanner y cynnyrch yn gynnyrch wedi'i brosesu sy'n dod o anifeiliaid, ar yr amod bod cynhyrchion o'r fath—
(i) yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol neu eu bod, wrth gael eu cynhyrchu, yn amlwg wedi bod drwy broses gyflawn o goginio neu driniaeth â gwres drwy gyfanrwydd eu sylweddau, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi'i annatureiddio;
(ii) wedi'u dynodi'n glir eu bod wedi'u bwriadu i'w bwyta gan bobl;
(iii) wedi'u pacio'n ddiogel neu wedi'u selio mewn cynwysyddion glân; a
(iv) bod dogfen fasnachol yn mynd gyda hwynt â'u bod wedi'u labelu mewn iaith sy'n iaith swyddogol i Aelod-wladwriaeth, fel bod y ddogfen honno a'r labelu gyda'i gilydd yn rhoi gwybodaeth ar natur, ansawdd a nifer y pecynnau o'r cynhyrchion cyfansawdd, gwlad eu tarddiad, y gweithgynhyrchydd a'r cynhwysyn;”.
(4) Yn lle paragraff (8) o reoliad 4 (Esemptiad ar gyfer cynhyrchion a awdurdodwyd a mewnforion personol) rhodder—“
(8) Yn y rheoliad hwn ystyr “cig” (“meat”) “cynhyrchion cig” (“meat products”) “llaeth” (“milk”) a “cynhyrchion llaeth” (“milk products”) yw cynhyrchion o'r mathau hynny a restrir ym Mhenodau 2 a 4 o'r Tabl yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC.”.
(5) Yn Atodlen 1 (Amodau Mewnforio), Rhan VIII (Cynhyrchion Amrywiol), ar ôl paragraff 19 mewnosoder —“
Cynhyrchion cyfansawdd
20 
Penderfyniad y Comisiwn 2007/275 (ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496 a 97/78/EC) (OJ Rhif L166, 4.5.2007, t. 9).”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig
12 Mehefin 2007