
2007 Rhif 117 (Cy.8)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 23 Ionawr 2007
Yn dod i rym 31 Ionawr 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan mai ef yw'r person priodol at ddibenion adran 79(7C)(d) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”), yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau hynny a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol, ac sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan baragraff 1(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Ionawr 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mangreoedd diwydiannol perthnasol etc: eithriadau pellach
2 
At ddibenion paragraff (d) o adran 79(7C) o Ddeddf 1990, rhagnodir tir o ddisgrifiad a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau Niwsans Statudol (Apelau) 1995
3 

(1) Mae Rheoliad 2 (apelau o dan adran 80(3) o Ddeddf 1990) o Reoliadau Niwsans Statudol (Apelau) 1995 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:
(2) Ym mharagraff (2)(e)—
(a) ym mharagraff (i), ar ôl “(f)” mewnosoder “, (fa)”;
(b) ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“or
(iv) is a nuisance falling within section 79(1)(fb) of the 1990 Act and—(aa) the artificial light is emitted from industrial, trade or business premises, or(bb) the artificial light (not being light to which sub-paragraph (aa) applies) is emitted by lights used for the purpose only of illuminating an outdoor relevant sports facility (within the meaning given by section 80(8A) of the 1990 Act),”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2007
YR ATODLEN
Rheoliad 2


Disgrifiad o'r Tir Deddfwriaeth
Tir sydd wedi'i ddynodi am y tro fel Ardal Amgylcheddol Sensitif o dan adran 18(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49) 
Tir y gwneir unrhyw daliad mewn perthynas ag ef yn unol â darpariaethau Offeryn Statudol a enwir gyferbyn â hyn Rheoliadau Cynefinoedd (Coetiroedd Llydanddail) (Cymru) 1994 (O.S. 1994/3099)
Rheoliadau Cynefinoedd (Ymylon Dŵr) (Cymru) 1994 (O.S. 1994/3100)
Rheoliadau Cynefinoedd (Lleiniau Arfordirol) (Cymru) 1994 (O.S. 1994/3101)
Rheoliadau Cynefinoedd (Tiroedd Glas Toreithiog eu Rhywogaethau) 1994 (O.S. 1994/3102)
Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994 (O.S. 1994/2716)
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 1996 (O.S. 1996/908)
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/3709)
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1606)
Rheoliadau Rhostiroedd (Dad-ddwysáu Da Byw) (Cymru) 1995 (O.S. 1995/1159)
Rheoliadau Ffermio Organig (Cymorth) 1994 (O.S. 1994/1721)
Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001 (O.S. 2001/424)
Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006 (O.S. 2006/41)
Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1176)