
2007 Rhif 1080 (Cy.127)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Mewnforio Adar Caeth) 2007
Wedi'u gwneud 28 Mawrth 2007
Yn dod i rym 1 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Erwropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno:
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Mewnforio Adar Caeth) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
2 
Yn rheoliad 16(4) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006, yn lle “1 April 2007” rhodder “1 July 2007”.
3 
Dirymir rheoliad 2(3) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2006 .
4 
Dirymir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2007