
2007 Rhif 1076 (Cy.114)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007
Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2007
Yn dod i rym 6 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo, ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw wrth lunio'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007, deuant i rym ar 6 Ebrill 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003
2 
Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2002/46” mewnosoder ar y diwedd “, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/37/EC sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran cynnwys sylweddau penodol”.
4 
Yn Atodlen 1 (fitaminau a mwynau y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd), yn Adran 1 (fitaminau), yn lle “Asid ffolig” rhodder “Ffolad”.
5 
Yn Atodlen 2 (ffurf ar sylweddau fitamin a mwyn y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd)—
(a) yn adran A (fitaminau), yn eitem 10 yn lle'r pennawd “ASID FFOLIG” rhodder “FFOLAD”, ac o dan y pennawd (diwygiedig) hwnnw rhodder ar y diwedd “(b) calsiwm L-methylffolad”;
(b) yn adran B (mwynau) o flaen “Carbonad cwprig” mewnosoder “Bisglycinad fferus”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007