
2007 Rhif 1041 (Cy.101)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2007
Yn dod i rym 9 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Ebrill 2007.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau y mae eu hangen at anghenion personol
2 
Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £20.88 yr wythnos.
Dirymu
3 
Mae rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006 drwy hyn wedi'u dirymu.
Diwygio rheoliad 20A o'r Prif Reoliadau
4 
Ym mharagraff (2) o reoliad 20A o'r Prif Reoliadau (Terfyn Cyfalaf — Cymru) yn lle'r ffigur “£21,500” rhodder y ffigur “£22,000”.
Diwygio rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau
5 
Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf — Cymru)—
(a) yn lle'r ffigur “£16,000” rhodder y ffigur “£17,250” yn y ddau le y mae'n ymddangos; a
(b) yn lle'r ffigur “£21,500” rhodder y ffigur “£22,000”.
Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau
6 

(1) Yn lle paragraff 28A o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau rhodder y canlynol—“
28A 

(1) Any child benefit, except in circumstances where a resident is accompanied by the child or qualifying young person in respect of whom the child benefit is payable and accommodation is provided for that child or qualifying young person under Part 3 of the Act.
(2) In this paragraph, “child” and “qualifying young person” have the same meaning as in section 142 of the Contributions and Benefits Act.”.
(2) Ym mharagraff 28H—
(a) yn is-baragraffau (1) a (2) yn lle'r ffigur “£5.05” rhodder y ffigur “£5.25” ym mhob lle y mae'n ymddangos; a
(b) yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur “£7.50” rhodder y ffigur “£7.85” ym mhob lle y mae'n ymddangos.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007