
2007 Rhif 1027 (Cy.94)
ANIFEILIAID, CYMRU
ATAL CREULONDEB
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 27Mawrth 2007
Yn dod i rym 28 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2 o Ddeddf Amaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef.

Yn unol ag adran 2(1) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny yr ymddengys iddo ef eu bod yn cynrychioli'r buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwynt, fel y gwêl yn briodol.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.
Dirymiadau
2 
Mae'r offerynnau a ddisgrifir yn y golofn gyntaf a'r ail golofn o'r Atodlen yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn y drydedd golofn o'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
YR ATODLEN
DIRYMIADAU
Rheoliad 2


Yr offeryn a ddirymir Y Cyfeirnod Graddau'r Dirymu
Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethau a Waherddir) 1982 O.S. 1982/ 1884 Y cyfan o'r Rheoliadau.
Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethaua Waherddir) (Diwygio) 1987 O.S. 1987/ 114 Y cyfan o'r Rheoliadau.
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 O.S. 2001/ 2682 Paragraffau 8 a 9 o Atodlen 3D; a Pharagraffau 19 i 26 o Atodlen 6 .