
2006 Rhif 950 (Cy.99)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 28 Mawrth 2006
Yn dod i rym 31 Mawrth 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985 sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 31 Mawrth 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Corff penodedig
2 
Pennir bod Church House Trust plc (Cwmni Rhif 0980698) yn sefydliad benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2006