
2006 Rhif 943 (Cy.92)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 28 Mawrth 2006
Yn dod i rym 1 Ebrill 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001.
Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau
2 

(1) Diwygir rheoliad 8 o'r prif Reoliadau (esemptiadau) fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder y canlynol—“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd ffi yn daladwy o dan reoliadau 3, 4, 6 neu 7 gan y canlynol—
(a) person sydd o dan 16 oed;
(b) person sydd o dan 19 oed sy'n derbyn addysg lawnamser gymwys o fewn ystyr paragraff 7 o Atodlen 12 i'r Ddeddf;
(c) person sydd o dan 25 oed ac sy'n cyflwyno—
(i) ffurflen bresgripsiwn Gymreig, neu
(ii) swp-ddyroddiad sy'n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy Cymreig;
(ch) person sydd wedi cyrraedd 60 oed;
(d) menyw sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ar y sail ei bod yn fam sy'n disgwyl neu sydd wedi rhoi genedigaeth yn ystod y deuddeg mis diwethaf i blentyn byw neu i blentyn y gellir cofrestru ei fod yn farwanedig o dan Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953 neu sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(dd) person sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol ar y sail ei fod yn dioddef un neu fwy o'r cyflyrau canlynol—
(i) ffistwla parhaol (gan gynnwys caecostomi, colostomi, laryngostomi neu ileostomi) sy'n gwneud gorchuddion llawfeddygol neu gyfarpar yn ofynnol yn barhaol;
(ii)  yr anhwylderau canlynol—
 ffurfiau o hypoadrenaledd (gan gynnwys clefyd Addison) y mae therapi amnewid penodol yn hanfodol ar ei gyfer
 diabetes insipidus a ffurfiau eraill o hypobidwitedd
 diabetes mellitus — ac eithrio pan yw'r drinaeth drwy ddeiet yn unig
 hypoarathyroidedd
 myasthenia gravis
 mycsoedema
(iii) epilepsi sy'n ei gwneud yn ofynnol i barhau â therapi gwrth-ddirdynnol;
(iv) anabledd corfforol parhaus sy'n rhwystro'r claf rhag gadael ei breswylfa heb gymorth person arall;
neu gan berson sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(e) person sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran cyflenwi cyffuriau a chyfarpar ar gyfer trin anabledd sydd wedi'i dderbyn, ond yn y naill achos neu'r llall dim ond o ran y cyflenwadau hynny y mae'r dystysgrif yn ymwneud â hwy;
(f) person sydd â thystysgrif ragdalu ddilys neu dystysgrif ragdalu ddilys a roddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon”.
(3) Ym mharagraff (2)—
(a) yn is-baragraff (a) yn lle “yn unrhyw un o is-baragraffau (a), (b) neu (d)” rhodder “yn unrhyw un o is-baragraffau (a) i (ch) neu (e)”;
(b) yn is-baragraff (b) yn lle “is-baragraffau (a) i (dd)” rhodder “is-baragraffau (a) i (f)”.
(4) Ym mharagraff (3A) yn lle “paragraff (1)(a) neu (b)” rhodder “paragraff (1)(a) i (ch)”.
Diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau
3 

(1) Diwygir rheoliad 9 o'r prif Reoliadau (Tystysgrifau esemptio — gwneud cais amdanynt a'u rhoi) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) yn lle “rheoliad 8(1)(c), (ch) neu (d)” rhodder “rheoliad 8(1)(d), (dd) neu (e)”;
(b) yn lle “is-baragraff (c) neu (ch)” rhodder “is-baragraff (d) neu (dd)”; ac
(c) yn lle “o dan is-baragraff (d)” rhodder “o dan is-baragraff (e)”.
(3) Ym mharagraff (2) yn lle “is-baragraff (c)” rhodder “is-baragraff (d)”.
(4) Ym mharagraff (3)—
(a) yn lle “rheoliad 8(1)(a) neu (b)” rhodder “rheoliad 8(1)(a) i (ch)”;
(b) yn lle “rheoliad 8(1)(ch)” rhodder “rheoliad 8(1)(dd)”.
(5) Ym mharagraff (4) yn lle “rheoliad 8(1)(d)” rhodder “rheoliad 8(1)(e)”.
Diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau
4 

(1) Diwygir rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (Tystysgrifau rhagdalu) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3) yn lle “rheoliad 8(1)(dd)” rhodder “rheoliad 8(1)(f)”.
(3) Ym mharagraff (6)(a) yn lle “rheoliad 8(1)(b) i (d)” rhodder “rheoliad 8(1)(ch) i (e)”.
(4) Ym mharagraff 10(a) yn lle “rheoliad 8(1)(b) i (d)” rhodder “rheoliad 8(1)(ch) i (e)”.
(5) Ym mharagraff 14(b)(i) yn lle “rheoliad 8(1)(b) i (d)” rhodder “rheoliad 8(1)(ch) i (e)”.
(6) Ym mharagraff 14(c)(i) yn lle “rheoliad 8(1)(b) i (d)” rhodder “rheoliad 8(1)(ch) i (e)”.
Diwygio rheoliad 11 o'r prif Reoliadau
5 
Yn rheoliad 11(3) o'r prif Reoliadau (ad-dalu ffioedd) yn lle “rheoliad 8(1)(d)” rhodder “rheoliad 8(1)(e)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2006