
2006 Rhif 940 (Cy.89)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 28 Mawrth 2006
Yn dod i rym 1 Ebrill 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 67(2), 2(A), (6) ac adran 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 7 o Atodlen 8 iddi, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn,
 ystyr “awdurdod lleol priodol” (“appropriate local authority”) yw—
(i) yr awdurdod lleol y maethir y plentyn yn breifat yn ei ardal; neu
(ii) yn achos cynnig i faethu plentyn yn breifat, yr awdurdod lleol y cynigir bod y plentyn yn cael ei faethu'n breifat yn ei ardal;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989; ac
 ystyr “gofalydd maeth preifat” (“private foster carer”) yw person sy'n maethu plentyn yn breifat.
Hysbysiad o gynnig i faethu plentyn yn breifat
3 

(1) Rhaid i berson sy'n cynnig maethu plentyn yn breifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r cynnig—
(a) o leiaf chwe wythnos cyn bod y trefniant maethu preifat i gychwyn; neu
(b) os yw'r trefniant maethu preifat i gychwyn o fewn chwe wythnos, ar unwaith.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n ymwneud a threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) i blentyn gael ei faethu'n breifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r trefniant cyn gynted â phosibl ar ôl i'r trefniant gael ei wneud.
(3) Rhaid i riant plentyn, a pherson nad yw'n rhiant ond bod ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn, nad yw'n ymwneud â threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) ar gyfer maethu'r plentyn yn breifat, ond sy'n gwybod bod cynnig i faethu'r plentyn yn breifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r cynnig cyn gynted â phosibl ar ôl dod yn ymwybodol o'r trefniant.
(4) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (1) i (3) gynnwys cymaint o'r wybodaeth honno a bennir yn Atodlen 1 y mae'r person sy'n rhoi'r hysbysiad yn gallu ei darparu.
Camau i'w cymryd gan awdurdod lleol pan geir hysbysiad o gynnig i faethu plentyn yn breifat
4 

(1) Os bydd awdurdod lleol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 3 rhaid iddo drefnu, er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 67(1) o'r Ddeddf (lles plant a faethir yn breifat), bod swyddog o'r awdurdod o fewn saith o ddiwrnodau gwaith—
(a) yn ymweld â'r fangre y cynigir y gofalir am y plentyn ynddi a'i letya ynddi;
(b) yn ymweld â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig ac yn siarad ag ef a chyda phob un o aelodau'r aelwyd;
(c) yn ymweld â'r plentyn ac yn siarad ag ef, ar ei ben ei hun onid yw'r swyddog yn ystyried bod hynny'n amhriodol;
(ch) yn siarad â phob rhiant, neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac yn ymweld â hwy os yw hynny'n ymarferol; a
(d) cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 2 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.
(2) Ar ôl cwblhau'r swyddogaethau o dan baragraff (1) rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.
Hysbysiad gan berson sydd eisoes yn maethu plentyn yn breifat
5 

(1) Rhaid i berson sy'n maethu plentyn yn breifat ond nad yw wedi hysbysu'r awdurdod lleol priodol yn unol â rheoliad 3 hysbysu'r awdurdod lleol priodol ar unwaith.
(2) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) gynnwys cymaint o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1 ag y gall y person sy'n rhoi'r hysbysiad ei darparu.
Hysbysiad bod plentyn yn mynd i fyw gyda gofalydd maeth preifat
6 

(1) Rhaid i berson a roddodd hysbysiad o dan reoliad 3(1), o fewn 48 awr ar ôl cychwyn y trefniant, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r ffaith.
(2) Rhaid i riant plentyn, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sydd wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 3(2) neu 3(3) o fewn 48 awr ar ôl i'r plentyn fynd i fyw at ofalydd maeth preifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r ffaith.
Camau i'w cymryd gan awdurdod lleol pan ddaw hysbysiad i law am blentyn a faethir yn breifat
7 
Os yw awdurdod lleol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 5 neu 6, er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 67(1) o'r Ddeddf rhaid iddo drefnu bod swyddog o'r awdurdod o fewn saith o ddiwrnodau gwaith—
(a) yn ymweld â'r fangre y gofalir am y plentyn ynddi a'i letya ynddi;
(b) yn ymweld â'r gofalydd maeth preifat ac yn siarad ag ef a chyda phob un o aelodau aelwyd y gofalydd maeth preifat;
(c) yn ymweld â'r plentyn ac yn siarad ag ef, ar ei ben ei hun onid yw'r swyddog yn ystyried bod hynny'n amhriodol;
(ch) yn siarad â phob rhiant, neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac yn ymweld â hwy os yw hynny'n ymarferol; a
(d) yn cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.
(2) Ar ôl iddo gwblhau ei swyddogaethau o dan baragraff (1) rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.
Ymweliadau dilynol â phlant a faethir yn breifat
8 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol drefnu bod swyddog o'r awdurdod yn ymweld â phob plentyn a faethir yn breifat yn ei ardal—
(a) ym mlwyddyn gyntaf y trefniant maethu preifat ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na chwe wythnos; a
(b) mewn ail flwyddyn neu unrhyw flwyddyn wedyn, ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na 12 wythnos.
(2) Yn ychwanegol at ymweliadau a wneir yn unol â pharagraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod pob plentyn a faethir yn breifat yn ei ardal yn cael ymweliad gan swyddog pan wneir cais rhesymol am hynny gan y plentyn, y gofalydd maeth preifat, rhiant y plentyn neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.
(3) Pan wneir ymweliad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r swyddog siarad â'r plentyn ar ei ben ei hun onid yw o'r farn bod hynny'n amhriodol.
(4) Pan wneir ymweliad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r swyddog gadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 y mae'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.
(5) Rhaid i'r swyddog wneud adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol ar ôl pob ymweliad a wnaed yn unol â'r rheoliad hwn.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, bernir bod y trefniant maethu preifat yn cychwyn pan ddaw'r awdurdod lleol yn ymwybodol ohono.
Hysbysiad o newid mewn amgylchiadau
9 

(1) Rhaid i ofalydd maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol—
(a) o unrhyw newid yn ei gyfeiriad;
(b) o unrhyw berson sy'n peidio â bod yn rhan o'i aelwyd neu'n gyflogedig ar ei aelwyd;
(c) o unrhyw dramgwydd pellach y collfarnwyd y gofalydd maeth preifat ohono neu berson sy'n rhan o'i aelwyd neu a gyflogir ar ei aelwyd;
(ch) o unrhyw ddatgymhwysiad pellach a osodwyd arno neu ar berson sy'n rhan o'i aelwyd neu a gyflogir ar ei aelwyd o dan adran 68 o'r Ddeddf; ac
(d) os oes unrhyw berson yn dechrau bod yn rhan o aelwyd y gofalydd maeth preifat neu'n gyflogedig ar ei aelwyd, ac unrhyw dramgwydd y collfarnwyd y person hwnnw ohono, ac unrhyw ddatgymhwysiad neu waharddiad a osodwyd arno o dan adran 68 neu 69 o'r Ddeddf neu o dan unrhyw ddeddfiad blaenorol o unrhyw un o'r ddwy adran honno.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei roi—
(a) ymlaen llaw pan fo hynny'n ymarferol;
(b) ym mhob achos arall, dim mwy na 48 awr ar ôl y newid mewn amgylchiadau.
(3) Os bydd cyfeiriad newydd y gofalydd maeth preifat yn ardal awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r awdurdod y cyflwynir yr hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn anfon at yr awdurdod dros yr ardal—
(a) enw a chyfeiriad newydd y gofalydd maeth preifat;
(b) enw'r plentyn a faethir yn breifat; ac
(c) enw a chyfeiriad rhieni'r plentyn neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.
(4) Rhaid i riant plentyn a faethir yn breifat, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sy'n gwybod bod y plentyn yn cael ei faethu yn breifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o unrhyw newid yng nghyfeiriad personol y person hwnnw.
Hysbysiad o ddiwedd trefniant maethu preifat
10 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i unrhyw berson a fu'n maethu plentyn yn breifat, ond sydd wedi gorffen gwneud hynny, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o fewn 48 awr a rhaid iddo gynnwys yn yr hysbysiad enw a chyfeiriad y person y derbyniwyd y plentyn i'w ofal a pherthynas y person hwnnw â'r plentyn.
(2) Os bu unrhyw berson yn maethu plentyn yn breifat, ond mae wedi gorffen gwneud hynny, oherwydd bod y plentyn wedi marw, yn yr hysbysiad rhaid i'r person hwnnw nodi mai dyna yw'r rheswm.
(3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os bydd y gofalydd maeth preifat yn bwriadu ailddechrau'r trefniant maethu preifat ar ôl bwlch nad yw'n fwy na 27 diwrnod ond—
(a) os bydd y gofalydd maeth preifat wedyn yn rhoi'r gorau i'w fwriad; neu
(b) os yw'r bwlch yn dod i ben ac nad yw'r gofalydd maeth preifat wedi gweithredu ei fwriad,
rhaid i'r gofalydd maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol o fewn 48 awr ar ôl iddo roi'r gorau i'w fwriad neu, yn ôl y digwydd, ar ôl i'r bwlch ddod i ben.
(4) Rhaid i unrhyw riant i blentyn a faethir yn breifat, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sydd wedi rhoi hysbysiad i'r awdurdod lleol o dan reoliad 3(2) neu (3), hysbysu'r awdurdod lleol priodol o ddiweddu'r trefniant maethu preifat a rhaid iddynt gynnwys hefyd yn yr hysbysiad enw a chyfeiriad y person y derbyniwyd y plentyn i'w ofal a pherthynas y person hwnnw â'r plentyn.
Ffurf yr hysbysiadau
11 
Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.
Monitro cyflawni'r swyddogaethau o dan Ran 9 o'r Ddeddf
12 
Rhaid i bob awdurdod lleol fonitro'r dull y mae'n cyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 9 o'r Ddeddf a rhaid iddo benodi swyddog o'r awdurdod lleol at y diben hwnnw.
Dirymu a darpariaeth drosiannol
13 
Dirymir Rheoliadau Plant (Trefniadau ar gyfer Maethu Preifat) 1991 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, ac eithrio bod unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan y Rheoliadau hynny cyn bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym yn cael ei drin fel pe bai wedi'i roi o dan y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2006
ATODLEN 1
YR WYBODAETH SYDD I'W DARPARU YN YR HYSBYSIAD
Rheoliadau 3 a 5
1 
Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) yw—
(a) enw, rhyw, dyddiad a man geni, cred grefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn;
(b) enw a chyfeiriad presennol y person sy'n rhoi'r hysbysiad ac unrhyw gyfeiriad blaenorol a fu ganddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf;
(c) enw a chyfeiriad presennol gofalydd maeth arfaethedig y plentyn neu ofalydd maeth presennol y plentyn ac unrhyw gyfeiriad blaenorol a fu ganddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf;
(ch) hyd arfaethedig y trefniant maethu preifat;
(d) enw a chyfeiriad presennol rhieni'r plentyn ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac (os yw'n wahanol) unrhyw berson arall y derbynnir neu y derbyniwyd y plentyn oddi wrtho;
(dd) enw a chyfeiriad presennol brodyr a chwiorydd y plentyn sy'n finoriaid, a manylion y trefniadau am eu gofal;
(e) enw a chyfeiriad presennol unrhyw berson, heblaw person a bennir yn is-baragraff (d), sydd â rhan neu a fu â rhan (p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) wrth drefnu i'r plentyn gael ei faethu'n breifat; a
(f) y dyddiad y bwriedir bod y trefniant maethu yn cychwyn, neu'r dyddiad pan gychwynnodd.
2 
Yn achos person sy'n rhoi hysbysiad o dan reoliad 3(1) neu 5(1) mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) hefyd yn cynnwys—
(a) unrhyw dramgwydd y collfarnwyd ef ohono;
(b) unrhyw ddatgymhwysiad neu waharddiad a osodwyd arno o dan adran 68 neu 69 o'r Ddeddf neu o dan unrhyw ddeddfiad blaenorol o unrhyw un o'r adrannau hynny;
(c) unrhyw gollfarn, datgymhwysiad neu waharddiad o'r fath a osodwyd ar unrhyw berson arall sy'n byw ar yr un aelwyd neu a gyflogir ar yr un aelwyd.
(ch) unrhyw orchymyn o fath a bennir mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf a wnaed ar unrhyw adeg yn ei gylch;
(d) unrhyw orchymyn o fath a bennir mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf a wnaed ar unrhyw adeg o ran plentyn a fu yn ei ofal; ac
(dd) unrhyw hawl neu bŵer ynglŷn â phlentyn sydd neu a fu o dan ei ofal a gafodd eu breinio ar unrhyw adeg mewn awdurdod a bennwyd mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf o dan ddeddfiad a bennir yn y rheoliadau hynny.
ATODLEN 2
LLES PLANT SYDD I'W MAETHU YN BREIFAT
Rheoliad 4

Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(d) yw—
(a) bod hyd arfaethedig y trefniant wedi cael ei ddeall a'i gytuno rhwng—
(i) rhiant y plentyn neu unrhyw berson arall â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn; a
(ii) y gofalydd maeth preifat arfaethedig;
(b) dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant arfaethedig (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);
(c) addasrwydd y llety arfaethedig;
(ch) gallu'r gofalydd maeth preifat arfaethedig i edrych ar ôl y plentyn;
(d) addasrwydd aelodau eraill o aelwyd y gofalydd maeth preifat arfaethedig;
(dd) bod y trefniadau a gytunir ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, personau eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano, a phersonau eraill sy'n arwyddocaol i'r plentyn, wedi cael eu cytuno a'u deall ac y bydd y trefniadau hynny'n foddhaol ar gyfer y plentyn;
(e) bod y rhieni neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn wedi cytuno ar drefniadau ariannol â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal;
(f) bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol y plentyn;
(ff) bod ystyriaeth wedi'i rhoi a'r camau angenrheidiol wedi'u cymryd i wneud trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;
(g) sut y gwneir penderfyniadau ynghylch gofal y plentyn; ac
(ng) a yw'r gofalydd maeth preifat arfaethedig, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen.

ATODLEN 3
LLES PLANT A FAETHIR YN BREIFAT
Rheoliadau 7 ac 8
3 
Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliadau 7(1)(d) ac 8(4) yw—
(a) bod diben a hyd arfaethedig y trefniant maethu yn cael ei ddeall a'i gytuno rhwng—
(i) rhieni'r plentyn neu unrhyw berson arall â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn; a
(ii) y gofalydd maeth preifat;
(b) dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);
(c) bod datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol y plentyn a datblygiad ei ymddygiad yn briodol a boddhaol;
(ch) bod anghenion y plentyn sy'n codi o'i gred grefyddol, ei darddiad hiliol, a'i gefndir diwylliannol ac ieithyddol yn cael eu diwallu;
(d) bod y trefniadau ariannol ar gyfer gofalu am y plentyn a'i gynnal yn gweithio;
(dd) gallu'r gofalydd maeth preifat i edrych ar ôl y plentyn;
(e) addasrwydd y llety;
(f) bod y trefniadau ar gyfer gofal meddygol, deintyddol ac optegol a thriniaeth feddygol, ddeintyddol ac optegol, wrth law, ac yn benodol, fod y plentyn wedi'i roi ar restr person sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn unol â Rhan 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
(ff) y trefniadau ar gyfer addysg y plentyn;
(g) safon y gofal a roddir i'r plentyn;
(ng) addasrwydd aelodau aelwyd y gofalydd maeth preifat;
(h) a yw'r gofalydd maeth preifat, rhieni'r plentyn, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu unrhyw berson arall sy'n ymwneud â'r plentyn yn cael y cyngor hwnnw y mae'n ymddangos i'r awdurdod bod ei angen;
(i) sut y gwneir penderfyniadau am ofal y plentyn; ac
(l) a yw'r cyswllt rhwng y plentyn a'i rieni, neu unrhyw berson arall y trefnwyd cyswllt ag ef, yn foddhaol ar gyfer y plentyn.