
2006 Rhif 885 (Cy.85) (C.23)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 21 Mawrth 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 67(3), (7)(a),(c),(e) ac (i) ac Atodlen 5 o Ddeddf Plant 2004  drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 2004.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Diwrnod Penodedig
2 

(1) 31 Mawrth 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 26 o'r Ddeddf (Cynlluniau plant a phobl ifanc: Cymru) i rym.
(2) 1 Ebrill 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—
(a) Adran 28 (1)(a) i (c) ac (i), (2) (i'r graddau y bônt yn berthnasol i'r personau a chyrff y cyfeirir atynt yn isadran (1)(a) i (c) ac (i)), (3) a (4) (Trefniadau i ddiogelu a hybu lles: Cymru);
(b) Adran 44 (Maethu preifat: diwygiadau i'r cynllun hysbysu);
(c) Adran 48 ac Atodlen 4 (ac eithrio paragraff (5) o'r Atodlen honno) (Gwarchod plant a gofal dydd);
(ch) Adran 53 (Canfod dymuniadau plant);
(d) Adran 54 (Gwybodaeth am blant unigol);
(dd) Adran 55 (Pwyllgorau gwasanaethau cymdeithasol) ;
(e) Adran 61 (Comisiynydd Plant Cymru: pwerau mynediad); a
(f) Rhannau 1 (i'r graddau y mae'n berthnasol i Adran 5 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002), 2 a 4 o Atodlen 5 (Diddymiadau).
(3) 1 Medi 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—
(a) Adran 27 (Cyfrifoldeb am swyddogaethau o dan adrannau 25 a 26); a
(b) Rhan 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac eithrio'r darpariaethau sy'n berthnasol i baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989) o Atodlen 5 (Diddymiadau).
(4) 1 Hydref 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—
(a) Adran 30 (Archwilio swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Ddeddf);
(b) Adran 32 (Swyddogaethau a gweithdrefnau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru);
(c) Adran 33 (Cyllido Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru);
(ch) Adran 34 (Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru: atodol);
(d) Adran 50 (Ymyrraeth);
(dd) Adran 52 (Dyletswydd awdurdodau lleol i hybu cyflawniad addysgol); a
(e) Adran 56 (Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2006