
2006 Rhif 870 (Cy.80) (C.20)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2006
Wedi 21 Mawrth 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 67(3) a (4) o Ddeddf Plant 2004  a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol  drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 2004.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y diwrnod penodedig
2 

(1) 1 Medi 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn adran 25 o'r Ddeddf (Cydweithio i wella lles: Cymru) i rym.
(2) 1 Hydref 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn adran 31 o'r Ddeddf (Sefydlu Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2006