
2006 Rhif 764 (Cy.73)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 14 Mawrth 2006
Yn dod i rym 20 Mawrth 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 76(4) a 140(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi iddo ymgynghori â'r cynrychiolwyr llywodraeth leol hynny sydd yn ei farn ef yn briodol, yn unol ag adran 76(5) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 20 Mawrth 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau
2 
Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, mae rheoliad 3 o Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000, wedi'i ddiwygio —
(a) drwy hepgor paragraffau (e) ac (f); a
(b) drwy ychwanegu, ar y diwedd,—“
(k) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mawrth 2006