
2006 Rhif 64 (Cy.13)
CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU
Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006
Wedi'i wneud 18 Ionawr 2006
Yn dod i rym 1 Ebrill 2006

GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”), a Rhan I o Atodlen 4 iddi, yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Bwrdd Henebion Cymru (“y Bwrdd”) sydd wedi'i gyfansoddi ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (“Deddf 1979”)
A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Bwrdd, sef yn bennaf cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf 1979, yn bennaf yn swyddogaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol rhoi cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun ac felly'n dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998

YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Bwrdd” (“the Board” ) yw Bwrdd Henebion Cymru.
Diddymu'r Bwrdd
2 

(1) Diddymir y Bwrdd.
(2) Trosglwyddir pob eiddo a phob hawl y mae gan y Bwrdd hawl iddynt, ac unrhyw rwymedigaethau y mae'r Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt, i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diwygiadau canlyniadol
3 

(1) Diddymir y darpariaethau a ganlyn—
(a) adrannau 22 a 23 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979; a
(b) y cofnod sy'n ymwneud â'r Bwrdd yn—
(i) Rhan II o Atodlen 1A i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976;
(ii) Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; a
(iii) Rhan VI o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
(2) Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Bwrdd yn—
(a) Atodlen 3 i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001; a
(b) Rhan I o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002,
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Ionawr 2006