
2006 Rhif 63 (Cy.12)
CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU
Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006
Wedi'i wneud 18 Ionawr 2006
Yn dod i rym 1 Ebrill 2006

GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (“Deddf 1998”) a Rhan I o Atodlen 4 iddi yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru (“y Cyngor”) a gyfansoddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 (“Deddf 1953”)
A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Cyngor o dan Ddeddf 1953 naill ai yn ei gwneud yn ofynnol fod cyngor yn cael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun (ac, yn unol â hynny, eu bod yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998 ac i gael eu diddymu) neu'n ei gwneud yn ofynnol i eraill ymgynghori â'r Cyngor (ac, yn unol â hynny, eu bod i gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol)

YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 ohoni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru; ac
 ystyr “Deddf 1953” (“the 1953 Act”) yw Deddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953.
Diddymu'r Cyngor
2 

(1) Diddymir y Cyngor.
(2) Trosglwyddir pob eiddo a phob hawl y mae gan y Cyngor hawl iddynt, a phob rhwymedigaeth y mae'r Cyngor yn ddarostyngedig iddi, i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diwygiadau canlyniadol
3 

(1) Diddymir y darpariaethau a ganlyn—
(a) adrannau 2 (i'r graddau y mae'r adran honno'n gymwys i adran 3), 3 a 9(1) o Ddeddf 1953;
(b) adrannau 77(7), (8) a (9), 79(2) ac 80(4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990; ac
(c) y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—
(i) Rhan II o Atodlen 1A i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976,
(ii) Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a
(iii) Rhan VI o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
(2) Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—
(a) Atodlen 3 i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001;
(b) Rhan 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002.
(3) Yn adran 5(4) o Ddeddf 1953—
(a) yn lle “the appropriate Commission or Council”, rhodder “the Commission”;
(b) ar ôl “accepting any property”, mewnosoder “situated in England”;
(c) ar ôl “dealing with any”, mewnosoder “such”; ac
(ch) yn lle “the said Commission or Council”, rhodder “the Commission”.
(4) Yn—
(a) paragraff 2(2)(b) o Atodlen 9 i Ddeddf Trydan 1989; a
(b) paragraff (a) o'r diffiniad o “competent authority” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Rheolaeth ar Sylweddau Niweidiol) 1992,
yn lle “Historic Buildings Council”, rhodder “National Assembly”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Ionawr 2006